Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Mai 2017
Amser: 09.30 -
11.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4155
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Dawn Bowden AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Yr Athro Keith Lloyd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Joanne Carter, Pen y Bont Health Gail Price, Pen y Bont Health Alison Craven, Pen y Bont Health Ian O’Connor, Pen y Bont Health |
Staff y Pwyllgor: |
Sian Thomas (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC ac Angela Burns AC. Dirprwyodd Mohammad Asghar AC ar ran Angela Burns.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Keith Lloyd o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Pen-Y-Bont Health.
4.1a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Sian Gwenllian AC.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.
7.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau pellach ar ei ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth gwrth-seicotig mewn cartrefi gofal a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i sesiynau casglu tystiolaeth yn ystod tymor yr hydref.
8.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau pellach ar y flaenoriaeth a nodwyd ganddo yn flaenorol y dylid ymchwilio i iechyd y cyhoedd a chwaraeon. Cytunodd y Pwyllgor i drafod opsiynau ar gyfer ymchwiliad yn ystod un o'i gyfarfodydd ym mis Gorffennaf, gyda'r bwriad o lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr haf.
8.2 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch ei flaenraglen waith.